Isaiah 10:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dim dyna ydy bwriad Asyria — rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg. Ei bwriad hi ydy dinistrio, a difa gwledydd yn llwyr — llawer ohonyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid yw hi'n amcanu fel hyn, ac nid yw'n bwriadu felly; canys y mae ei bryd ar ddifetha a thorri ymaith genhedloedd lawer.