Isaiah 11:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cenfigen Effraim a ymedy hefyd, a gwrthwynebwyr Jwda a dorrir ymaith: ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni chyfynga Jwda ar Effraim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna bydd cenfigen Effraim yn darfod a bydd yr elyniaeth rhyngddi â Jwda yn dod i ben. Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda, a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Diflanna cenfigen Effraim, a thorrir ymaith elynion Jwda. Ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni fydd Jwda'n gwrthwynebu Effraim.