Isaiah 11:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tua'r gorllewin; ynghyd yr ysbeiliant feibion y dwyrain: hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab, a meibion Ammon fydd mewn ufudd‐dod iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n ymosod ar y Philistiaid i'r gorllewin, ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda'i gilydd. Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw, a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond disgynnant ar lethrau'r Philistiaid yn y gorllewin, ac ynghyd fe ysbeiliant y dwyreinwyr; bydd Edom a Moab o fewn eu gafael, a phlant Ammon yn ufudd iddynt.