Isaiah 11:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r blaidd a drig gyda'r oen, a'r llewpard a orwedd gyda'r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a'r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a'u harwain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen, a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr. Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd, a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe drig y blaidd gyda'r oen, fe orwedd y llewpard gyda'r myn; bydd y llo a'r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain.