Isaiah 13:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ymwelaf â'r byd am ei ddrygioni, ac â'r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni, a phobl ddrwg am eu pechod. Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug, ac yn torri crib y rhai creulon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cosbaf y byd am ei bechod, a'r drygionus am eu camwedd; gwnaf i falchder y beiddgar beidio, gostyngaf ymffrost y trahaus.