Isaiah 13:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a'i coleddo; pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb i'w gwlad eu hun a ffoant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hun ac yn dianc i'w gynefin; fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela, neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel ewig wedi ei tharfu, fel praidd heb neb i'w corlannu, bydd pawb yn troi at ei dylwyth, a phob un yn ffoi i'w gynefin.