Isaiah 13:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni chyfanheddir hi yn dragywydd, ac ni phreswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a'r bugeiliaid ni chorlannant yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd neb yn byw yno byth eto; neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau — dim bedowin yn codi ei babell, na bugail yn gorffwys ei braidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni chyfanheddir hi o gwbl, na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau; ni phabella'r Arab o'i mewn, ac ni chorlanna'r bugail ynddi.