Isaiah 13:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi, a'r dreigiau yn y palasoedd hyfryd: a'i hamser sydd yn agos i ddyfod, a'i dyddiau nid oedir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion, a siacaliaid yn ei phlastai. Mae ei hamser bron ar ben; fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
bydd y siacal yn cyfarth yn ei thyrau, a'r hiena yn ei phlastai hyfryd. Y mae ei hamser wrth law, ac nid estynnir ei dyddiau.