Isaiah 13:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: ARGLWYDD y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd — fel byddin enfawr; Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd! Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn casglu byddin i ryfel!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywch, su373?n tyrfa ar y mynyddoedd, fel pobloedd heb rifedi! Clywch, dwndwr teyrnasoedd, fel cenhedloedd wedi eu crynhoi. ARGLWYDD y Lluoedd sydd yn cynnull y llu ar gyfer brwydr.