Isaiah 13:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, yn greulon â digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a'i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod; dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid, i droi'r ddaear yn anialwch diffaith, a chael gwared â phechaduriaid ohoni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wele, daw dydd yr ARGLWYDD, yn greulon gan ddigofaint a llid, i wneud y ddaear yn ddiffaith a dileu ei phechaduriaid ohoni.