Isaiah 14:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr tydi a fwriwyd allan o'th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond ti? — cest ti dy adael heb dy gladdu, yn ffiaidd, fel ffetws wedi ei erthylu. Fel corff marw yn y dillad a wisgai pan gafodd ei drywanu gan y cleddyf. Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll, neu gorff yn cael ei sathru dan draed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd, fel erthyl a ffieiddir; fe'th orchuddiwyd chelanedd wedi eu trywanu chleddyf, ac yn disgyn i waelodion y pwll, fel cyrff wedi eu sathru dan draed.