Isaiah 14:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y bobl hefyd a'u cymer hwynt, ac a'u dygant i'w lle, a thŷ Israel a'u meddianna hwynt yn nhir yr ARGLWYDD, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a'u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i'w mamwlad. Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw, i'w drin gan eu gweision a'u morynion. Byddan nhw'n caethiwo'r rhai wnaeth eu caethiwo nhw, ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.