Isaiah 14:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni byddi mewn un bedd â hwynt, oherwydd dy dir a ddifethaist, a'th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill, am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy hun a lladd dy bobl dy hun. Boed i neb byth eto gofio'r fath hil o bobl ddrwg!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy, oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl. Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;