Isaiah 14:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am ddryllio Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir, ac yn ei sathru ar fy mryniau. Bydd ei iau yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw, a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
drylliaf Asyria yn fy nhir, mathraf hi ar fy mynyddoedd; symudir ei hiau oddi arnat a'i phwn oddi ar dy gefn.