Isaiah 14:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a'i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd, am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi ei thorri. O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi, gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paid llawenychu, Philistia gyfan, am dorri'r wialen a'th drawodd; oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber, a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.