Isaiah 14:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd yn ddi-stop. Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd a'u herlid yn ddi-baid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a fu'n taro'r bobloedd mewn dig, heb atal eu hergyd, ac yn sathru'r bobloedd mewn llid a'u herlid yn ddi-baid.