Isaiah 15:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Baich Moab. Oherwydd y nos y dinistriwyd Ar Moab, ac y distawyd hi; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab, ac y distawyd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neges am Moab. Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Ar yn Moab ei difrodi'n llwyr; Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Cir yn Moab ei difrodi'n llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oracl am Moab: Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab; y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab.