Isaiah 15:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab — a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soar ac Eglath-shalisheia. Maen nhw'n wylo wrth ddringo ar lethr Lwchith Mae gwaedd dinistr yn codi ar y ffordd i Choronaïm.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab. Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell Soar, hyd Eglathshalisheia; dringant riw Luhith dan wylo, a thorri calon ar ffordd Horonaim.