Isaiah 16:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu — un o deulu Dafydd. Bydd yn teyrnasu'n ffyddlon, bydd yn frwd dros gyfiawnder ac yn hybu tegwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch, ac arni fe eistedd un ffyddlon ym mhabell Dafydd, barnwr yn ceisio barn deg ac yn barod i fod yn gyfiawn.