Isaiah 16:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbon a gwinllannoedd Sibma wedi gwywo. Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloedd wedi torri eu gwinwydd gorau. Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser, ac yn ymestyn i'r anialwch; roedd eu brigau wedi ymledu ac yn cyrraedd at y môr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma; drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion; buont yn cyrraedd hyd at Jaser, ac yn ymestyn trwy'r anialwch. Yr oedd ei blagur yn gwthio allan, ac yn cyrraedd ar draws y mr.