Isaiah 16:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, â'm dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n wylo gyda Iaser dros winwydd Sibma. Gwlychaf di â'm dagrau Cheshbon ac Eleale, am fod y gweiddi llawen am ffrwythau aeddfed dy gynhaeaf wedi dod i ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny wylaf dros winwydd Sibma fel yr wylais dros Jaser; dyfrhaf di 'm dagrau, Hesbon ac Eleale; canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.