Isaiah 17:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a DUW a'u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymhell, ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr, bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi. Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt, neu blu ysgall o flaen corwynt.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion, pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell; erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt, fel plu ysgall o flaen corwynt.