Isaiah 17:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na'r llwyni, na'r delwau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yn lle syllu ar yr allorau godon nhw, polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth — eu gwaith llaw eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.