Isaiah 18:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd, mewn llestri brwyn, gan ddywedyd, Ewch, genhadon cyflym, at genhedlaeth wasgaredig ac ysbeiliedig, at bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenhedlaeth wedi ei mesur a'i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ewch, negeswyr cyflym, at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn — pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman; cenedl gref sy'n hoffi ymladd, sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn anfon cenhadau dros y mr mewn cychod o bapurfrwyn ar wyneb y dyfroedd. Ewch, chwi negeswyr cyflym, at genedl sy'n dal ac yn llyfn, at bobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd.