Isaiah 18:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y ddaear: ac arnynt y bwrw yr adar yr haf, a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y cwbl yn cael ei adael i'r eryrod ar y mynydd ac i'r anifeiliaid gwylltion. Bydd yr adar yn byw drwy'r haf arnyn nhw, a'r anifeiliaid gwylltion trwy'r gaeaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'u gadewir i gyd i adar rheibus y mynydd ac i anifeiliaid gwylltion. Yno bydd yr adar rheibus yn treulio'r haf, a'r anifeiliaid gwylltion yn gaeafu.