Isaiah 18:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr amser hwnnw y dygir rhodd i ARGLWYDD y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenedl wedi ei mesur a'i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir, i le enw ARGLWYDD y lluoedd, sef i fynydd Seion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn yn dod â rhoddion i'r ARGLWYDD holl-bwerus — pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman; cenedl gref sy'n hoffi ymladd, sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd. Dônt i'r lle mae enw'r ARGLWYDD holl-bwerus arno: i Fynydd Seion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr amser hwnnw dygir rhoddion i ARGLWYDD y Lluoedd gan bobl dal a llyfn, pobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd, i'r lle sy'n dwyn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Mynydd Seion.