Isaiah 19:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i ARGLWYDD y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr ARGLWYDD oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a'u gwared hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn arwydd i atgoffa'r Aifft pwy ydy'r ARGLWYDD holl-bwerus. Pan fyddan nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD am help yn erbyn y rhai sy'n eu gorthrymu nhw, bydd e'n anfon un i'w hachub nhw ac ymladd drostyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub.