Isaiah 19:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i'r ARGLWYDD, ac a'i talant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Achos bydd yr ARGLWYDD yn datguddio ei hun i'r Eifftiaid, a byddan nhw'n dod i'w nabod e bryd hynny. Byddan nhw'n ei addoli gydag aberth ac offrwm o rawn, yn gwneud addunedau iddo, ac yn eu cadw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo.