Isaiah 2:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer. Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a'u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Barna ef rhwng cenhedloedd, a thorri'r ddadl i bobloedd lawer; curant eu cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.