Isaiah 20:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr amser hwnnw y bu gair yr ARGLWYDD trwy law Eseia mab Amos, gan ddywedyd, Dos, a datod y sachliain oddi am dy lwynau, a diosg dy esgidiau oddi am dy draed. Ac efe a wnaeth felly, gan rodio yn noeth, ac heb esgidiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a tynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dyna'r pryd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia fab Amos, "Dos, datod y sachliain oddi am dy lwynau, a thyn dy sandalau oddi am dy draed." Fe wnaeth hynny, a cherddodd o amgylch heb ddillad ac yn droednoeth.