Isaiah 20:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dydd hwnnw y dywed preswylwyr yr ynys hon, Wele, fel hyn y mae ein gobaith ni, lle y ffoesom am gymorth i'n gwared rhag brenin Asyria: a pha fodd y dihangwn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny, bydd y rhai sy'n byw ar yr arfordir yma yn dweud, ‘Os ydy hyn wedi digwydd i'r Aifft, pa obaith sydd i ni? Roedden ni wedi gobeithio mai nhw fyddai'n ein helpu ni ac yn ein hachub rhag brenin Asyria.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd pawb sy'n trigo ar y traethau hyn yn y dydd hwnnw yn dweud, 'Dyma sydd wedi digwydd i'r rhai yr oeddem ni'n gobeithio ynddynt ac yn dibynnu arnynt am help a gwaredigaeth o afael brenin Asyria. Sut felly y dihangwn?'"