Isaiah 21:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a'm daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd; Mae poenau yn gafael yno i fel gwraig mewn poen wrth gael babi. Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed, ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny llanwyd fy lwynau gofid, cydiwyd ynof gan wewyr, fel gwraig wrth esgor; cythryblwyd fi wrth ei glywed, brawychais wrth ei weld.