Isaiah 22:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Beth sy'n digwydd yma? Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma? Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig; Naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma, dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun, gan dorri dy fedd ar le uchel a naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?