Isaiah 22:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd arni; canys yr ARGLWYDD a'i dywedodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bryd hynny,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“bydd yr hoelen oedd mor sownd yn dod yn rhydd. Bydd yn cael ei thorri a bydd yn syrthio, a bydd y llwyth oedd yn hongian arni yn cael ei dynnu i lawr.” Mae'r ARGLWYDD wedi dweud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "fe symudir yr hoelen a osodwyd yn sicr yn ei lle; fe'i torrir ac fe syrthia; dryllir hefyd y llwyth a oedd arni." Llefarodd yr ARGLWYDD.