Isaiah 23:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd, “Dyna ddigon o dy rialtwch ferch Sidon, sydd wedi ei gorthrymu.” Dos! cod, a chroesa drosodd i Cyprus, Ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd, "Ni chei ymffrostio ddim mwy, ti forwyn a orthrymwyd, ferch Sidon; cod, dos drosodd i Chittim, ond ni chei orffwys yno chwaith."