Isaiah 23:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a'i tynnodd hi i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch ar wlad Babilonia — y bobl sydd wedi peidio â bod! Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwylltion. Codi tyrau i warchae arni, ysbeilio ei phlastai a'i throi yn adfeilion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrych ar wlad y Caldeaid. Y rhain nid yr Asyriaid yw'r bobl a bennodd Tyrus i'r anifeiliaid gwylltion. Hwy a gododd warchae, a dryllio'i phalasau, a'i thynnu i lawr yn adfeilion.