Isaiah 24:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i'r cyfiawn. A dywedais, O fy nghulni, O fy nghulni, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o'r fath anffyddlonaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae canu i'w glywed o ben draw'r byd: “Mae'r Un Cyfiawn mor wych!” Ond wedyn dw i'n dweud: “Mae ar ben arna i! Mae ar ben arna i! Gwae fi! Mae bradwyr yn bradychu! Bradwyr yn bradychu â'u brad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd: "Gogoniant i'r Un Cyfiawn." Ond fe ddywedaf fi, "Nychdod! Nychdod! Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd 'u twyll."