Isaiah 24:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna bydd yr un ffunud i'r bobl ac i'r offeiriad, i'r gwas ac i'w feistr, i'r llawforwyn ac i'w meistres, i'r prynydd ac i'r gwerthydd, i'r hwn a roddo ac i'r hwn a gymero echwyn, i'r hwn a gymero log ac i'r hwn a dalo log iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr un peth yn digwydd i'r offeiriad ac i'r bobl gyffredin, i'r gwas a'i feistr, i'r forwyn a'i meistres, i'r gwerthwr a'r prynwr, i'r benthyciwr a'r un sy'n benthyg, i'r credydwr a'r un mewn dyled.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad, i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres, i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr, i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu.