Isaiah 24:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y lleuad a wrida, a'r haul a gywilyddia, pan deyrnaso ARGLWYDD y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalem, ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y lleuad yn cywilyddio a'r haul yn swil, pan fydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn teyrnasu ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, yn ei holl ysblander o flaen arweinwyr y bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaradwyddir y lloer, a chywilyddia'r haul, oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoedd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.