Isaiah 25:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol, fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio. Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo hefo symudiad ei ddwylo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
bydd Moab yn estyn ei dwylo allan yn ei chanol, fel nofiwr yn eu hestyn i nofio, ond fe suddir ei balchder gyda phob symudiad dwylo.