Isaiah 25:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys buost nerth i'r tlawd, a chadernid i'r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio; yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng — yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul. Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys buost yn noddfa i'r tlawd, yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder, yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres. Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,