Isaiah 25:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ARGLWYDD y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw‐win; o basgedigion breision, a gloyw‐win puredig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i'r cenhedloedd i gyd. Gwledd o winoedd aeddfed — bwyd blasus gyda'r gwin gorau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd, gwledd o win wedi aeddfedu, o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n ln.