Isaiah 25:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a'r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a'i llefarodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd marwolaeth wedi ei lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu'r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir. —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
llyncir angau am byth, a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb, ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear. Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.