Isaiah 26:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, ni chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw; cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi. Ti wnaeth benderfynu eu tynged nhw, eu dinistrio nhw a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent yn feirw, heb fedru byw, yn gysgodion, heb fedru codi mwyach. I hynny y cosbaist hwy a'u difetha, a diddymu pob atgof amdanynt.