Isaiah 26:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'm henaid y'th ddymunais liw nos; â'm hysbryd hefyd o'm mewn y'th foregeisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon, mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer; achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad, maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deisyfaf di 'm holl galon drwy'r nos, a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr; oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad, bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.