Isaiah 27:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oes lidiowgrwydd ynof: pwy a osodai fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel? myfi a awn trwyddynt, mi a'u llosgwn hwynt ynghyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim yn ddig bellach: Petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi, byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn, ac yn eu llosgi nhw'n ulw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes gennyf lid yn ei herbyn; os drain a mieri a rydd imi, rhyfelaf yn ei herbyn, a'u llosgi i gyd;