Isaiah 27:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob; a dyna'r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na'r delwau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob, a dyma fydd canlyniad symud ei bechod: Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd fel petaen nhw'n garreg galch — a polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth wedi eu torri i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y mae glanhau drygioni Jacob, a hyn fydd yn symud ymaith ei gamwedd gwneud holl feini'r allor fel cerrig calch wedi eu malu, heb bost nac allor yn sefyll.