Isaiah 28:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gair yr ARGLWYDD oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw: “‘a, b,’ ‘a, b,’ ‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’ tyrd yma, bach; fan yma, bach!” Wrth geisio mynd yn eu blaenau byddan nhw'n syrthio ar eu tinau, yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt: "Mater o ddysgu sillafu yw hi: 'o s' am 'os', 'o s' am 'os'; 'a c' am 'ac', 'a c' am 'ac' gair bach yma, gair bach draw." Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn l, a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal.