Isaiah 28:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi sy'n brolio, “Dŷn ni wedi gwneud cytundeb gyda Marwolaeth, a taro bargen i osgoi'r bedd. Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd, fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni. Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio, a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych chwi'n dweud, "Gwnaethom gyfamod ag angau a chynghrair Sheol: pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd ni, am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll."