Isaiah 28:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion, carreg ddiogel, conglfaen gwerthfawr, sylfaen hollol gadarn. Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw: "Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion, maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia'r sawl sy'n credu.